This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Rheolwr Cyllid

Company:South Wales Fire and Rescue Service
Salary:£51,356 - £52,413
Hours:Full-time
Location:Pontyclun, CF72 8LX
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:30 Jul 2026
Closing date:20 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 20fed Awst 2026 am 12:00, hanner dydd.

Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w.y.d 24ain Awst 2026

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eisiau penodi Rheolwr Cyllid a fydd yn cynnal gwerthoedd y Gwasanaeth sef bod yn broffesiynol, yn ofalgar, yn barchus, yn ymroddedig, yn ddibynadwy, yn ddeinamig, yn ddisgybledig ac yn hydwyth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos agwedd frwdfrydig ac arloesol at arwain tîm cyllid perfformiad uchel y Gwasanaethau a bydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Pennaeth Cyllid, Caffael ac Eiddo.

Bydd hwn yn gyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus wella diwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru drwy ddarparu arweinyddiaeth ar lefel reolwyr canol uwch a datblygu mewnwelediad ac arbenigedd ar gyfer y lefel nesaf fel dirprwy drysorydd.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos gwybodaeth dechnegol gref, sgiliau cynllunio a sgiliau pobl. Bydd sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio rhagorol yn allweddol i gefnogi’r uwch dîm arwain a Chomisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a gweithio ar y cyd â Gwasanaethau Tân ac Achub eraill, Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner.

Rydym yn chwilio am unigolyn ag ystod o brofiad ym maes cyllid a all arwain yn optimistaidd, mewn amgylchedd heriol a chyfnewidiol.

Gall ychwanegiad marchnad fod ar gael a bydd yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses cynnig swydd, gan ddibynnu ar gymwysterau, sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod proffesiynol o un o’r Cyrff Cyfrifyddu’r Pwyllgor Ymgynghorol (CCAB) yn ogystal â meddu ar arbenigedd cynhwysfawr yn y meysydd canlynol;

• Proses cau cyfrifon a pharatoi datganiadau ariannol

• Technegau cyfrifo rheolaeth ac adrodd

• Cyfrifo cyfalaf a rheolaeth trysorlys

• Cytundeb: Parhaol

• Gradd: 17

• Cyflog: £51,356 - £52,413 y flwyddyn (yn amodol ar ddyfarniad cyflog), mae ychwanegiad marchnad ar gael i ymgeiswyr eithriadol

• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos

• Cyfeirnod Swydd: NU125

Apply for this job

Related jobs

Rheolydd Ardal

£94,293 to £103,429 per year

South Wales Fire and Rescue Service

Pontyclun, Wales

On-sitePermanentFull time

Rheolwr yr Uned lechyd Galwedigaethol

£49,282 to £50,269 per year

South Wales Fire and Rescue Service

Pontyclun, Wales

On-sitePermanentFull time

Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol

from £117,000 per year

South Wales Fire and Rescue Service

Pontyclun, Wales

HybridPermanentFull time
Browse more jobs