PRIF SWYDDOG CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU
| Company: | South Wales Fire and Rescue Service |
|---|---|
| Salary: | £39,152 - £39,862 |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Pontyclun, CF72 8LX |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 14 Jul 2026 |
| Closing date: | 10 Aug 2026 |
Summary
Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 10fed Awst 2026 am hanner dydd.
Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w/c 10fed Awst 2026
Disgwylir I’r cyfweliadau gael eu cynnal: w/c 01/06/2026
Rydym yn chwilio am Swyddog Arweiniol Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd i lunio'r ffordd rydym yn adrodd ein stori ac yn cysylltu â'n cymunedau a'n cydweithwyr. Byddwch yn arwain y gwaith o gyflwyno ymgyrchoedd effeithiol sy'n rhoi bywyd i flaenoriaethau'r Gwasanaeth, gan weithio ar draws sianeli cyfryngau, digidol, mewnol ac ymgysylltu i greu cyfathrebiadau cydgysylltiedig ac ystyrlon.
Wrth wraidd y rôl mae ffocws ar ansawdd a chanlyniadau. Byddwch yn gosod y safon ar gyfer negeseuon clir, cyson a grymus, gan greu a goruchwylio cynnwys hygyrch, dwyieithog a chynhwysol sy'n cyrraedd pobl yn wirioneddol ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu tîm dawnus o Swyddogion Cyfathrebu, gan feithrin hyder, gallu a balchder yn eu gwaith.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i gyflawni gweithgaredd rhagweithiol ac ymgysylltiol sydd â effaith gadarnhaol ar gymunedau. Mae hon yn rôl ddeinamig a gwerth chweil lle byddwch hefyd yn cefnogi cyfathrebu digwyddiadau ac argyfyngau, gan helpu i sicrhau ymateb tawel, proffesiynol a chydlynol pan fo'n bwysicaf.
• Cytundeb: Llawn amser, parhaol
• Gradd: 11
• Cyflog: £39,152 - £39,862, Dyfarniad cyflog yn yr arfaeth, ynghyd â lwfans ar alwad
• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
• Cyfarwyddiaeth: Dirprwy Brif Swyddog Tân
• Lleoliad: Pencadlys y Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant
Related jobs
Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol
from £117,000 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
HybridPermanentFull timeRheolwr yr Uned lechyd Galwedigaethol
£49,282 to £50,269 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
On-sitePermanentFull timeRheolwr Cyllid
£51,356 to £52,413 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
On-sitePermanentFull time