This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Asesu a Brysbennu Integredig x 4

Company:Ceredigion County Council
Salary:£35,412 - £40,777
Hours:Full-time
Location:Penmorfa, SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:8 Jun 2026
Closing date:17 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Gymhwyso yn dechrau ar radd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar radd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. 

Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2027. 

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/ffordd-o-fyw/]. 

Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl? Ydych chi'n ffynnu mewn amgylchedd cyflym a chydweithredol lle mae ymyrraeth gynnar ac adferiad wrth wraidd popeth a wnewch?

Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol deinamig a brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Brysbennu ac Asesu Integredig. Mae hwn yn gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth sy'n edrych ymlaen ac sy'n gweithio ar y cyd i ddarparu cefnogaeth amserol, sy'n canolbwyntio ar y person, i oedolion a'u gofalwyr.

Fel aelod allweddol o'n tîm, byddwch yn:

- cynnal asesiadau sy'n seiliedig ar gryfderau gydag oedolion a gofalwyr

- datblygu a gweithredu cynlluniau gofal a chymorth sy'n hyrwyddo annibyniaeth, lles ac adferiad

- gweithio'n agos gyda phartneriaid iechyd, tai a chymunedol i sicrhau dull cyfannol ac integredig

- canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar i atal angen rhag cynyddu a chefnogi pobl i fyw'r bywydau maen nhw'n eu dewis

Yr hyn rydym yn chwilio amdano:

- gweithiwr Cymdeithasol cymwys a chofrestredig (mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru).

- profiad neu ddiddordeb mewn gweithio gydag oedolion.

- sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau cryf.

- ymrwymiad i hyrwyddo annibyniaeth, urddas a dewis.

Yr hyn a gynigiwn:

- amgylchedd tîm cefnogol a chynhwysol

- cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa

- trefniadau gwaith hyblyg

- mynediad at oruchwyliaeth fyfyriol a chefnogaeth gan gymheiriaid

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso) [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106409%20Grade 9.pdf]

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymwysedig) [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106409%20Grade 10.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch âJackie Roberts: Jackie.Roberts@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Asesu a Brysbennu Integredig

£35,412 to £40,777 per year, pro rata

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentPart time

Gweithiwr Cymdeithasol - Gofal wedi'i Gynllunio (Arbenigedd Oedolion)

£35,412 to £40,777 per year

Ceredigion County Council

Canolfan Rheidol

On-sitePermanentFull time

Gweithiwr Cymdeithasol - Tim Anableddau

£35,412 to £40,777 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs