Rheolwr Data, Systemau Gwybodaeth ac Arholiadau - Ysgol Bro Pedr
| Company: | Ceredigion County Council |
|---|---|
| Salary: | £40,444 to £42,123 a year |
| Hours: | Full-time |
| Location: | SA46 0PA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 21 Nov 2026 |
| Closing date: | 3 Dec 2026 |
Summary
DIBEN Y SWYDD
Prif bwrpas rôl Rheolwr Data, Systemau Gwybodaeth ac Arholiadau ein hysgol bydd sicrhau bod data, systemau gwybodaeth yr ysgol, data perfformiad a threfniadau arholiadau yn cael eu rheoli'n gywir, yn effeithlon ac yn unol â gofynion statudol. Mae'r rôl yn gyfrifol am gynnal uniondeb a dibynadwyedd data'r ysgol, datblygu a rheoli ein systemau gwybodaeth reoli (MIS) sef Bromcom, darparu adroddiadau a dadansoddiadau i gefnogi penderfyniadau ar bob lefel, a sicrhau bod holl brosesau arholiadau mewnol ac allanol yn cael eu gweinyddu'n effeithiol ac yn unol â rheoliadau cenedlaethol. Bydd deiliad y rôl hefyd yn darparu arweiniad technegol ac ymarferol ar ddefnydd systemau data, yn cydlynu prosesau casglu a dilysu gwybodaeth ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol rhwng yr ysgol, cyrff dyfarnu, awdurdodau lleol a darparwyr systemau gwybodaeth. Trwy sicrhau bod gwybodaeth gywir, amserol a hygyrch ar gael, mae'r rôl yn gwneud cyfraniad hanfodol at effeithlonrwydd gweithredol, cydymffurfiaeth statudol a chefnogi blaenoriaethau strategol yr ysgol.
Pecyn Gwybodaeth [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106998.pdf]
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad cysyllter â’r Pennaeth, Mrs Carys Morgan, drwy ebost ar MorganC506@hwbcymru.net neu drwy ffonio’r ysgol ar 01570 422214
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.
Related jobs
Goruchwylwyr Arholiadau - Ysgol Bro Teifi
from £25,614 per year
Ceredigion County Council
On-siteTemporaryFull timeUwch Swyddog Mewnwelediad a Datblygu Ieuenctid
£36,581 to £38,510 per year
Ceredigion County Council
Penmorfa
On-sitePermanentFull timeGweinyddydd Cymorth ir Gwasanaethau
from £26,016 per year
Ceredigion County Council
Penmorfa
On-sitePermanentFull time