Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Tiwtoriaid Celfyddydau Creadigol

Company:Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Salary:£32 to £32 an hour
Hours:Part-time
Location:Isle of Anglesey
Working pattern:Hybrid - 4 days remote
Job type:Contract
Posting date:29 Oct 2026
Closing date:11 Nov 2026
Apply for this job

Summary

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwys a medrus i gyflwyno cyrsiau Celfyddydau Creadigol i ddysgwyr ym Mangor ac Ynys Môn. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, er mwyn cefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

• Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.

• Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.

• Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu cyflwyno un neu fwy o'r cyrsiau canlynol (nodwch pa gyrsiau gallwch eu cyflwyno ar eich ffurflen gais):

• Darlunio drwy Arsylwi

• Paentio

• Gwneud Ffelt

• Tecstilau

• Croesawir unrhyw ddulliau creadigol eraill

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Ymgeisiwch erbyn 12.00yh Dydd Mercher 11eg Tachwedd 2026 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Proses Dethol a Recriwtio

Cynhelir cyfweliadau Dydd Iau 19eg Tachwedd. Os na allwch fynychu ar y dyddiad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi hyn ar eich cais ac yn cadarnhau eich argaeledd.

Fel rhan o'r broses gyfweld gofynnir i chi gyflwyno sesiwn meicroaddysgu 15 munud, a darparu cynllun gwers, cynllun gwaith, ac unrhyw adnoddau ar gyfer y sesiwn hon.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

Essential requirements

Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Apply for this job

Related jobs

Associate Therapist - Fostering

£20 to £30 per hour

FCA

Cardiff, Cardiff

RemotePermanentFull time

Traditional Window Cleaner. This job is based in Newark on Trent

Pelham Cleaning Services

RemotePermanentPart time
Browse more jobs