Teaching Assistant Level 2 x 2 - Ysgol Bro Teifi
| Company: | Ceredigion County Council |
|---|---|
| Salary: | from £26,016 a year, pro rata |
| Hours: | Part-time |
| Location: | SA46 0PA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 21 Oct 2026 |
| Closing date: | 1 Nov 2026 |
Summary
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi dau Gynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2 i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Bydd un o’r swyddi’n cefnogi disgyblion oed cynradd, a’r llall yn cefnogi disgyblion oed uwchradd, gan eu helpu i wneud cynnydd yn eu dysgu a’u datblygiad. Mae Ysgol Bro Teifi yn ymfalchïo yn ei hethos gynhwysol, a bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gefnogi ein hegwyddorion craidd a gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant yr ysgol.
Nodwch yn eich datganiad cefnogol a hoffech wneud cais am y swydd Cynradd, y swydd Uwchradd, neu’r ddwy swydd.
Manylion y swydd:
- Goruchwylio a chefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu.
- Sefydlu perthynas dda gyda’r disgyblion, gan weithredu fel patrwm ymddwyn, a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
- Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro neu’r athrawes.
- Annog disgyblion i weithredu’n annibynnol, fel y bo’n briodol.
- Cefnogi’r athro neu’r athrawes gyda’r gwaith o reoli ymddygiad disgyblion, gan gyflwyno adroddiad ar anawsterau, fel y bo’n briodol.
- Cefnogi disgyblion i gael mynediad i’r cwricwlwm.
Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106953.pdf]
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.
Related jobs
Teaching Assistant Level 2 - Cenarth Primary School
from £26,016 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-siteContractPart timeTeacher - Plascrug Primary School
£33,731 to £51,942 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-siteContractPart timeAsesydd Lefel 5 Cynllun Cam Wrth Gam
£29,420 to £33,530 per year
Mudiad Meithrin Cyf
RemoteContractFull time