Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Cynorthwyydd Dysgu

Company:eTeach UK Limited
Salary:Gradd 4
Hours:Full-time
Location:Porth, CF39 9HA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:15 Oct 2026
Closing date:24 Oct 2026
Apply for this job

Summary

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu brwdfrydig a dibynadwy i ddod yn aelod o dîm cynhwysiant yr ysgol.Chwiliwn am ymgeisydd egnïol a hyblyg fydd yn medru ymdopi â’r her o gefnogi ystod eang o ddysgwyr o fewn yr adran gynhwysiant ac yn ystod y diwrnod ysgol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynhwysiant a chynnydd dysgwyr drwy gefnogi gweithgareddau dysgu mewn gwahanol amgylcheddau.Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n meddu ar frwdfrydedd heintus ac sy’n awyddus i weithio yma yn Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda.Y rôlBydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:arwain a chefnogi sesiynau gwaith ac ymyrraeth ar gyfer unigolion a grwpiau bach o ddysgwyr,gweithio’n agos gyda staff addysgu a’r tîm cynhwysiant i gefnogi cynnydd dysgwyr,cynorthwyo dysgwyr i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu ar draws yr ysgol,darparu cefnogaeth hyblyg o fewn gwahanol amgylcheddau dysgu (gan gynnwys o fewn y dosbarth ar adegau),hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a lles dysgwyr,cyfrannu at ethos cynhwysol yr ysgol a bywyd ehangach yr adran.Nid yw profiad blaenorol mewn addysg yn hanfodol, ond byddai’n fantais.Rydym yn chwilio am rywun sy’n:meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf ac yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda dysgwyr,hyblyg ac yn gallu addasu i anghenion gwahanol ddysgwyr a sefyllfaoedd,ymrwymedig i gynhwysiant, tegwch a lles pob dysgwr,gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm,dangos agwedd gadarnhaol, frwdfrydig ac yn gallu ysgogi dysgwyr,trefnus a dibynadwy yn ei waith dyddiol,ymrwymedig i addysg Gymraeg ac yn cefnogi’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.Ynglŷn â’r ysgolMae gweledigaeth yr ysgol “Dyheu. Dysg. Daioni.” yn amlinellu ein hymrwymiad i ragoriaeth, tegwch a lles, ac mae’n tanategu pob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae Cymreictod a pharch yn greiddiol i’n hethos: parch at ein hunain, parch at eraill a’n hamgylchfyd, a balchder yn ein hiaith, ein diwylliant a’n llwyddiannau ar y cyd. Lleoliad a chyfleusterauMae’r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ar draws Cwm Rhondda, gyda chysylltiadau rhwydd o fod wedi’i lleoli yn y Porth – tua 20 munud o Gaerdydd ac 20 munud o Ben-y-bont.Ysgol Newydd i Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda:Bydd yr ysgol hefyd yn elwa o ysgol newydd sbon yr 21ain Ganrif, yn dilyn buddsoddiad sylweddol gyda chefnogaeth Cyngor RhCT a Llywodraeth Cymru, a gwaith adeiladu eisoes ar y gweill.Ymholiadau anffurfiolAm drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'r CADY Mrs Rhian Roberts.DiogeluMae Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau cyn-gyflogaeth priodol, gan gynnwys gwiriad DBS uwch a geirdaon boddhaol.

Apply for this job

Related jobs

Derbynnydd a Chynorthwyydd Atgynhyrchydd

GR4 Rhan Amser

eTeach UK Limited

Porth, Rhondda Cynon Taff

On-sitePermanentFull time

Athro/Athrawes - Ysgol Gymraeg Bro Allta

£33,731 to £51,942 per year

Caerphilly County Borough Council

Ystrad Mynach, Hengoed

On-siteTemporaryPart time

Tiwtoriaid Cyflogadwyedd

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

HybridContractPart time
Browse more jobs