REQ007441 - Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau
| Company: | Conwy County Borough Council |
|---|---|
| Hours: | Full-time |
| Location: | Colwyn Bay, LL29 7AZ |
| Working pattern: | Hybrid - 1 day remote |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 24 Sept 2026 |
| Closing date: | 8 Oct 2026 |
Summary
Ydych chi'n angerddol am wella canlyniadau i blant a phobl ifanc?
Hoffech chi weithio mewn tîm cefnogol lle mae perthnasoedd cadarnhaol, gwaith uniongyrchol a gwneud gwahaniaeth yn ganolog i bopeth a wnawn?
Oherwydd datblygiad gweithwyr, mae Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau Conwy yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a gweithwyr profiadol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau Plant sy'n Derbyn Gofal a Phobl Ifanc sy'n Gadael Gofal.
Mae Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn gofal, sydd â phrofiad o ofal ac sy'n paratoi ar gyfer oedolaeth. Ein nod yw sicrhau trefniadau teuluol diogel, sefydlog a pharhaol, hyrwyddo ailuno â theuluoedd lle bo hynny'n briodol, a chefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial drwy gynllunio llwybrau effeithiol.
Beth rydym yn ei gynnig
• Dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn gyda llais y plentyn wrth wraidd pob cynllun.
• Llwythi gwaith rhesymol a rheolaeth gefnogol ar y tîm.
• Mynediad at wasanaethau cefnogi arbenigol gan gynnwys Seicolegydd Mewnol a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Therapiwtig a Theuluol.
• Partneriaethau amlasiantaethol cryf gan gynnwys cysylltiadau agos â CAMHS a sefydliadau partner.
• Trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys pythefnos 9 diwrnod.
• Goruchwyliaeth reolaidd, mentora a chefnogaeth broffesiynol.
• Cyfleoedd datblygu gyrfa drwy raglenni Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus / Porth Agored a hyfforddiant arbenigol.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
REQ007442 - Gweithiwr Teulu Cynorthwyol
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
HybridContractFull timeREQ007453 - Rheolwr Tîm - Sefydlogrwydd a Llwybrau
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
HybridPermanentFull timeREQ007406 - Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
HybridPermanentPart time