Swyddog Cymorth Gweinyddol
| Company: | eTeach UK Limited |
|---|---|
| Salary: | Gradd 4 (pt6-11) 18.5awr/41 wythnos pro rata |
| Hours: | Part-time |
| Location: | Ystum Taf, CF14 2JL |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Contract |
| Posting date: | 23 Sept 2026 |
| Closing date: | 7 Oct 2026 |
Summary
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac egnïol i swydd Swyddog Cymorth Gweinyddol i gymuned yr Ysgol. Bydd yr unigolyn yn ddarparu cymorth gweinyddol cyffredinol i’r Tîm Gweinyddu ac uwch Dim Arwain yr Ysgol, yn ogystal â chefnogi’r Swyddog Arholiadau. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r profiad a’r ddealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i sefyllfaoedd ac ymholiadau gwahanol. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rhyngbersonol ardderchog i allu delio gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys, disgyblion, staff, rhieni, asiantaethau a phartneriaid allanol, y cyhoedd a’r gymuned ehangach.Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol a chymhleth gan gynnwys unigolion sy’n wynebu trafferthion neu anawsterau. Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli gweinyddiaeth effeithiol er mwyn sicrhau fod materion yn cael sylw mewn da bryd a bod blaenoriaethau yn derbyn sylw teilwng mewn cyfyngder amser penodol.Yn wyneb twf a newid o fewn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf, edrychwn am unigolyn brwdfrydig sydd â dealltwriaeth gadarn dros flaenoriaethau’r ysgol a dros y Gymraeg.Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans. Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Mercher 7 Hydref 2026Dyddiad dechrau y swydd: Cyn gynted â phosibl
Related jobs
Cynorthwy-ydd Dosbarth Gradd 4
Graddfa 4 Pwyntiau 6-11 +SEN
eTeach UK Limited
Ystum Taf, Cardiff
On-siteContractFull timeUwch Gynorthwyydd Gwarchod
£29,099 - £33,151 pro rata
eTeach UK Limited
Tyllgoed, Cardiff
On-siteContractPart timeCynorthwyydd Caffael I Dalu
£27,694 to £28,598 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
On-sitePermanentFull time