Exam Invigilator - Ysgol Gyfun Penweddig
| Company: | Ceredigion County Council |
|---|---|
| Salary: | from £25,614 a year |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Ysgol Gyfun Penweddig, SA46 0PA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Temporary |
| Posting date: | 23 Sept 2026 |
| Closing date: | 11 Oct 2026 |
Summary
Mae’r ysgol yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol i oruchwylio arholiadau allanol a mewnol yr ysgol.
Gan taw swydd achlysurol yw hon telir cyflog yn ôl yr awr. Bydd y mwyafrif o’r gwaith yn ystod tymor yr haf (Mai, Mehefin a Gorffennaf) ond gelwir am wasanaeth goruchwylwyr arholiadau ar adegau eraill o’r flwyddyn hefyd. D
isgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan weithredol i hyrwyddo nodau ac amcanion yr ysgol o Gymreictod, Parch ac Ymdrech.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â ni naill ai drwy ffonio’r ysgol (01970 639499), neu drwy e-bost at ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk.
Disgrifiad Swydd [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106892.pdf]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.
Related jobs
Teaching Assistant Level 2 - Ysgol Dyffryn Aeron
from £26,016 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-sitePermanentPart timeTeacher (Mathematics) - Ysgol Bro Teifi
£37,271 to £55,482 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-sitePermanentPart timeAsesydd Lefel 5 Cynllun Cam Wrth Gam
£29,420 to £33,530 per year
Mudiad Meithrin Cyf
RemoteContractFull time