SWYDDOG CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU
| Company: | South Wales Fire and Rescue Service |
|---|---|
| Salary: | £32,597 to £33,699 a year |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Pontyclun, CF72 8LX |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 7 Sept 2026 |
| Closing date: | 28 Sept 2026 |
Summary
Ymgeisiwch erbyn: Canol dydd, 28 Medi 2026
Disgwylir i'r broses o lunio rhestr fer ddigwydd: w/c 5 Hydref 2026
Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal: w/c 19 Hydref 2026
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu arloesol, gan helpu i lunio sut yr ydym yn cysylltu â'n cymunedau a'n cydweithwyr.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd a fydd yn creu cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel, deniadol gan ddod â blaenoriaethau ein Gwasanaeth yn fyw, gan weithio ar draws cyfryngau, digidol, sianeli mewnol ac ymgysylltu. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ymgyrchoedd integredig, gan weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid i adrodd straeon diddorol sy'n llywio, dylanwadu ac ysgogi gweithredu.
Mae hon yn rôl amrywiol a chyflym, lle byddai gallu siarad Cymraeg yn fantais. Byddwch yn ymateb i'r cyfryngau ac yn cefnogi ymgyrchoedd yn ogystal â chwilio'n weithredol am gyfleoedd i rannu straeon cadarnhaol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Byddwch yn helpu i gadw ein sianeli yn gyfredol ac yn berthnasol, yn cyfrannu at ymgyrchoedd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yn cefnogi cyfathrebu mewnol sy'n cysylltu cydweithwyr ar draws y Gwasanaeth.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy'n gwerthfawrogi creadigrwydd, cydweithio a gwelliant parhaus, gan ddefnyddio mewnwelediad ac adborth i gryfhau'r hyn a wnawn. Os ydych chi'n gyfathrebwr hyderus sy'n mwynhau adrodd straeon ac yn ffynnu mewn amgylchedd prysur ac eisiau datblygu eich gyrfa mewn rôl sydd â gwir effaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
• Contract: Llawn amser, parhaol
• Gradd: 8
• Cyflog: £32,597 – £33,699 (Dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)
• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
• Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Corfforaethol - Perfformiad
Gwasanaeth a Chyfathrebu
• Cyfeirnod y Swydd: 506604
• Lleoliad: Penwadlys Tân, Parc Busnes Forest View,
Llantrisant
Related jobs
Fathers and Significant Others Worker - Temporary / Fixed Term
Vale of Glamorgan Council
Field-basedTemporaryFull timeSwyddog Iaith Clebran Sir Conwy, Dinbyd a Fflint (Cyfnod Penodol hyd at 30.4.2027)
£25,175 to £28,531 per year, pro rata
Mudiad Meithrin Cyf
RemoteContractPart timeEstates Manager
Grade 5 SCP 11-19 (£28,142- £32,061)
eTeach UK Limited
Heath, Cardiff
On-sitePermanentFull time