This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Swyddog Cymorth y Ddalfa a Thywys (Aberhonddu)

Company:Dyfed-Powys Police
Salary:£28,914 - £30,897
Hours:Full-time
Location:Brecon, LD3 7HP
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:18 Aug 2026
Closing date:1 Sept 2026
Apply for this job

Summary

Heddlu Heddlu Dyfed Powys

Math o rôl Staff Heddlu

Maes Busnes / Adran Y Ddalfa

Lleoliad Aberhonddu

Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog a Gweithredol

Gradd D

Cyflog £28,914-£30,897

Lwfansau Sifft, Gweithio Penwythnos

Canran Sifft 20%

Canran Sifft Gweithio Penwythnosau 13.89%

Rhan/Llawn Amser Llawn Amser

Oriau'r Wythnos 37

Math o Gytundeb Parhaol

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1

Dyddiad Cyfweliad 14 Medi 2026

Dyddiad cau 01/09/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cymorth y Ddalfa a Thywys yn Y Ddalfa Aberhonddu.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cyflawni amrediad o ddyletswyddau i gyfrannu at dywys, cadw a thrin carcharorion yn effeithiol ac effeithlon.

Tasgau sy’n Benodol i’r Rôl

Gweithio’n agos â swyddogion y ddalfa i gynnal gwiriadau rheolaidd ar garcharorion yn y ddalfa.

Cynorthwyo i hebrwng unigolion sydd wedi’u harestio i ddalfa neu leoliad arall penodedig.

Cynorthwyo mewn dalfeydd eraill o fewn ardal yr heddlu, yn achos gofynion gweithredol. (Telir lwfansau priodol yn unol â chyflog ac amodau Staff Heddlu)

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Cynhelir cyfweliadau: 14eg a 17eg o Fedi

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Apply for this job

Related jobs

Tiwtoriaid - Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time

Tiwtoriaid Llythrennedd Digidol

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time

Tiwtoriaid Cyflogadwyedd

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time
Browse more jobs