Call Response & Support Officer
| Company: | Conwy County Borough Council |
|---|---|
| Salary: | Not specified |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Colwyn Bay, LL29 7AZ |
| Working pattern: | Hybrid - 2 days remote |
| Job type: | Temporary |
| Posting date: | 13 Aug 2026 |
| Closing date: | 27 Aug 2026 |
Summary
A ydych yn chwilio am swydd werthfawr?
Mae Galw Gofal yn wasanaeth monitro galwadau 24 awr ddwyieithog sy’n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl hŷn a bregus gan ddefnyddio gwasanaethau Teleofal i gynnal eu hannibyniaeth, a hefyd i’r cyhoedd gyda gwasanaethau delio â galwadau tu allan i oriau swyddfa ar gyfer nifer o Gynghorau, Cymdeithasau Tai a Busnesau Preifat e.e. Atgyweirio Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol, Priffyrdd, Digartrefedd, Digwyddiadau Argyfwng.
Byddwch yn darparu gwasanaethau sy’n cynnwys monitro galwadau Teleofal, Gweithwyr sy'n Gweithio ar eu Pen eu Hunain a Thu Allan i Oriau Swyddfa ac yn darparu cefnogaeth dros y ffôn i amryw o ymholiadau gwahanol, a all gynnwys sefyllfaoedd sy’n peryglu bywyd megis digwyddiadau meddygol, cwympiadau yn y cartref a thanau mewn tai.
Oherwydd estyniadau i gontractau a thwf busnes, mae Galw Gofal yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant i ymuno â’r tîm o swyddogion ymateb a chefnogi galwadau. Ai chi yw’r person hwn?
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy’n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gwobrau gwasanaeth hir, gostyngiadau a llawer mwy. Ar ôl cwblhau cyfnod prawf o 6 mis mae cyfle i weithio o gartref.
Bydd angen agwedd bositif arnoch chi yn ogystal â sgiliau cyfathrebu ardderchog ac addysg o safon dda gan gynnwys TG gyda'r gallu i ddefnyddio'ch menter eich hun.
Bydd disgwyl i chi ddangos gonestrwydd a chyfrinachedd ar lefel uchel oherwydd pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth i fywydau pobl a natur sensitif y gwasanaeth. Darperir cefnogaeth a hyfforddiant llawn.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu – bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad yn unol â BS7858.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol (nick.mccavish@conwy.gov.uk / 01492 575240)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Are you looking for a rewarding job?
Galw Gofal is a bilingual 24 hour call monitoring service which provides help & support for Older & Vulnerable people using Telecare services to maintain their independence, and also to the general public with Out of Hours call handling services to numerous Councils, Housing Association's and Private Businesses e.g. Housing repairs, Social Services, Highways, Homelessness, Emergency events.
You will provide services that include the monitoring of Telecare, Lone Workers & Out of Hours calls and provide support over the phone to numerous types of enquiries, which can include life-critical situations such as medical incidents, falls at home and house fires.
Due to contract extensions and business growth, Galw Gofal is looking for a self-motivated individual to join the team of call response & support officers. Is this person you?
You will benefit from a substantial rewards package, which includes a Local Government Pension Scheme, Occupational Sick Pay and staff benefits including salary sacrifice cars, Cycle to Work, cashback healthcare, long service awards, discounts plus much more. After completion of a 6-month probation there are opportunities for some home-working.
You will need a positive approach as well as excellent communication skills and a good standard of education including IT with the ability to use your own initiative.
You will be expected to show a high level of integrity and confidentiality due to the sensitive and life critical nature of the service. Full training and support provided.
Conwy is committed to safeguarding - qualifications and references will be verified. The successful applicant will be subject to vetting in line with BS7858.
Manager details for informal discussion: Nick McCavish, Regional Strategic Manager (nick.mccavish@conwy.gov.uk / 01492 575240)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
REQ007371 - Swyddog Asesu Ac Adolygu
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
HybridPermanentFull time