This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

202608: Swyddog carchar – CEF Berwyn

Company:Ministry of Justice
Salary:Not specified
Hours:Full-time
Location:Wrexham, LL13 9QE
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:13 Aug 2026
Closing date:3 Sept 2026
Apply for this job

Summary

Swyddog carchar – CEF Berwyn

CEF Berwyn

Cyflog cychwynnol: £36,816 (am wythnos 39 awr gan gynnwys 20% oriau anghymdeithasol)

Dinas/Tref: Wrecsam

Rhanbarth: Cymru

Math o swydd wag: Teilyngdod

Swydd eithriadol

Yn y gyrfa unigryw hon, byddwch yn cael y cyfle i gyflawni llawer o wahanol dasgau mewn unrhyw un diwrnod.

Yn ystod y broses recriwtio byddwch yn cael eich asesu ar:

• cyfathrebu a dylanwadu

• rheoli gwasanaeth o ansawdd

• gwneud penderfyniadau effeithiol

• gofalu

I ddod yn swyddog carchar, bydd angen i chi:

• fod yn 18 oed o leiaf wrth ddechrau’r gwaith

• bodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil

• pasio asesiad meddygol a ffitrwydd

• bodloni’r safon golwg ofynnol yn y ddau lygad

• am resymau diogelwch, bodloni safon briodol o glyw

Er bod tatŵau’n cael eu caniatáu, gan gynnwys y rhai sy’n weladwy, rhaid iddynt ddim bod yn dramgwyddus, gwahaniaethol, treisgar neu’n frawychus mewn unrhyw ffordd. Fel rheol, nid yw tatŵau wyneb yn dderbyniol, ac eithrio am resymau diwylliannol, crefyddol neu feddygol.

Am resymau diogelwch, mae angen safon briodol o glyw ar bawb sy'n hyfforddi i fod yn swyddog carchar (heb ddefnyddio cymhorthion clyw).

I weithio mewn carchar diogelwch uchel (categori A) rhaid i chi fod wedi byw yn y DU am y 3 blynedd diwethaf.

________________________________________

Sut i wneud cais

Ar ôl i chi gwblhau eich ffurflen gais gychwynnol.

Yna cewch eich gwahodd i gwblhau cam 1 y profion ar-lein, er mwyn asesu a oes gennych sgiliau barnu a rhifedd sylfaenol.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau Cam 2 yr Asesiad ar Sail Gwerthoedd (VBA).

Os byddwch yn pasio’r VBA, byddwch yn symud ymlaen i’r Ganolfan Asesu Ar-lein (OAC).

Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr sy’n cyflawni sgôr VBA uwch a bennwyd ymlaen llaw yn cael eu gwahodd i’r OAC yn gynt.

Ar ôl i chi gwblhau’r OAC yn llwyddiannus a chael eich dyrannu i swydd wag, byddwch yn cwblhau prawf meddygol a ffitrwydd. Bydd hyn yn cynnwys prawf golwg, prawf clyw a sgrinio iechyd sylfaenol, gan gynnwys gwiriad pwysedd gwaed.

________________________________________

Cyflog

Mae’r hyfforddiant cychwynnol yn wythnos 37 awr. Ar ôl hyfforddiant, gallwch ddewis gweithio 37, 39 neu 41 awr yr wythnos. Bydd eich cyflog blynyddol yn adlewyrchu eich oriau wythnosol.

37 awr yr wythnos = £xx,xxx y flwyddyn

39 awr yr wythnos = £xx,xxx y flwyddyn

41 awr yr wythnos = £xx,xxx y flwyddyn

Mae’r holl ffigurau cyflog a ddyfynnir yn cynnwys unrhyw lwfansau ychwanegol.

Mae’r wythnos waith safonol i swyddog carchar yn seiliedig ar batrwm shifft 39 awr yr wythnos.

________________________________________

Buddion

• 25 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth)

• amser talu i ffwrdd ar gyfer gwyliau cyhoeddus a 1 diwrnod breintiedig ychwanegol

• pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniadau cyflogwr o 28.97%

• cynllun beicio i’r gwaith, benthyciadau teithio a buddion eraill

Darllenwch fwy am fuddion swyddogion carchar

________________________________________

Cynigion swydd: swydd wag ar sail teilyngdod

Mae hon yn swydd wag ar sail teilyngdod. Os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu ar-lein, cewch eich ychwanegu at restr deilyngdod yn seiliedig ar eich sgôr.

Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r ganolfan asesu, bydd y carchar yn gwneud cynigion swydd i’r unigolion sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd

Rôl Gradd Cefnogaeth Weithredol

Bydd ein Canolfan Asesu Ar-lein (OAC) nid yn unig yn eich asesu yn erbyn y meini prawf allweddol i ddod yn swyddog carchar ond hefyd yn penderfynu eich addasrwydd ar gyfer rôl gradd cefnogaeth weithredol (OSG).

Os byddwch yn aflwyddiannus yn eich cais i ddod yn swyddog carchar ar ôl mynychu’r OAC, efallai y cewch gynnig rôl arall fel OSG.

Gradd cefnogaeth weithredol - Weinyddiaeth Gyfiawnder

________________________________________

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Weision Sifil.

Rydym yn recriwtio drwy ddeilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y nodir yng nghanllawiau recriwtio’r Comisiwn Gwasanaeth Sifil.

Os ydych yn teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion hyn, gallwch godi cwyn drwy gysylltu â Shared Services Connected Ltd: ffoniwch 0845 241 5358 (Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am – 6pm) neu e-bostiwch Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com

________________________________________

Amrywiaeth & Chynhwysiant

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn ymrwymedig i ddenu, cadw a buddsoddi mewn doniau lle bynnag y cânt eu canfod. I ddysgu mwy, gweler Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil.

________________________________________

Cymorth addasiadau rhesymol

Ticiwch ‘ie’ pan fydd yn gofyn a ydych yn meddwl y gallech fod angen addasiad rhesymol.

Apply for this job

Related jobs

Tiwtoriaid - Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time

Learning Support Assistant

eTeach UK Limited

Mold, Flintshire

On-siteContractPart time

Tiwtoriaid Llythrennedd Digidol

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time
Browse more jobs