Datblygydd Amlgyfrwng
| Company: | South Wales Fire and Rescue Service |
|---|---|
| Salary: | £32,597 - £33,699 |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Caerdydd, CF3 6YA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 6 Aug 2026 |
| Closing date: | 27 Aug 2026 |
Summary
Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 27/08/2026 am hanner dydd.
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Datblygydd Amlgyfrwng o fewn Uned Cefnogi Hyfforddiant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Lleolir y swydd hon yng Academi Hyfforddiant Gweithredol, Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol, Heol yr Eglwys, Hen Laneirwg, Caerdydd, CF3 6YA. Rydym yn sefydliad sy’n ystyriol o deuluoedd ac mae system gweithio hyblyg ar waith.
Gan weithio fel rhan o'r Uned Cefnogi Hyfforddiant ac adrodd i'r Arweinydd Tîm Datblygu Amlgyfrwng, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth dylunio ac amlgyfrwng o ansawdd uchel ac effeithlon trwy greu deunyddiau hyfforddi i gefnogi holl weithgareddau'r Gwasanaeth yn â hyfforddiant, datblygiad a hyfedredd sgiliau pharhaus. Yn ogystal, byddant yn darparu gwasanaeth ffotograffig a fideo ar gyfer Academi Hyfforddiant Gweithredol, Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol
Mae angen sgiliau trefnu rhagorol, mae cywirdeb a sylw i fanylion hefyd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar draws pob lefel, gydag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol. Darperir hyfforddiant yn systemau meddalwedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Gall y rôl hon olygu rhywfaint o deithio o bryd i'w gilydd rhwng safleoedd ledled De Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
• Cytundeb: Parhaol
• Gradd: 8
• Cyflog: £32,597- £33,699 per annum
• Oriau Gwaith: 37
• Cyfarwyddiaeth: Hyfforddi a Datblygu
• Cyfeirnod Swydd: 504044
• Lleoliad: Academi Hyfforddiant Gweithredol, Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol, Heol yr Eglwys, Hen Laneirwg, Caerdydd, CF3 6YA (Disgwylir i chi weithio o leoliadau eraill ar draws ardal y Gwasanaeth)
Related jobs
Swyddog Iaith Clebran Sir Ddinbych (Cyfnod Penodol hyd at 31.3.2027)
£25,175 to £28,531 per year, pro rata
Mudiad Meithrin Cyf
RemoteContractPart timeSwyddog Iaith Clebran Sir y Fflint (Cyfnod Penodol hyd at 31.3.2027)
£25,175 to £28,531 per year, pro rata
Mudiad Meithrin Cyf
RemoteContractPart time