This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Swyddog yr Uned Cymorth Technegol

Company:Dyfed-Powys Police
Salary:£43,668 - £47,046
Hours:Full-time
Location:Carmarthen, SA31 2PF
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:27 Jul 2026
Closing date:12 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Heddlu

Heddlu Dyfed Powys

Math o rôl

Staff Heddlu

Maes Busnes / Adran

Yr Adran Ymchwiliadau Troseddol

Lleoliad

Caerfyrddin, Pencadlys

Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol

Sefydlog a Gweithredol

Gradd

G

Cyflog

£43,668-£47,046

Lwfansau

Gweithio Penwythnos

Canran Sifft Gweithio Penwythnosau

6.6%

Rhan/Llawn Amser

Llawn Amser

Oriau'r Wythnos

37

Math o Gytundeb

Parhaol

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?

1

Dyddiad Cyfweliad

16 Medi 2026

Dyddiad cau

12/08/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog yr Uned Cymorth Technegol yn Adran Ymchwilio i Droseddau.

Ynglŷn â’r rol

Fel rhan o dîm bach, byddwch chi’n cyflwyno cefnogaeth arbenigol a chymorth technegol o fewn gweithrediadau gwyliadwriaeth gudd ac amlwg ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Rhaid cael agwedd hyblyg at waith gan y bydd gofyniad i weithio oriau

anghymdeithasol gyda newidiadau dyletswyddau ar fyr rybudd yn dibynnu ar angen gweithredol a ffurfio rhan o'r rota gweithio ar alwad a phenwythnosau i ddiogelu’r cyhoedd ac eiddo wrth gefnogi amcanion gweithredol a gofynion gwaith cysylltiedig.

Rhaid bod â chymwysterau hyd at o leiaf safon HND / HNC / BTEC neu

gyfwerth mewn un neu ragor o'r meysydd HANFODOL canlynol: Peirianneg Electronig, Peirianneg Gyfrifiadura / Rhwydwaith, Peirianneg Drydanol, Peirianneg Telathrebu, Peirianneg Fideo, Peirianneg Amledd Radio, Peirianneg Sain neu brofiad gwaith cyfatebol sy'n dod â deiliad y rôl i lefel gymharol.

Rhaid bod yn fedrus wrth ddefnyddio meddalwedd a chaledwedd arbenigol sy'n gysylltiedig â'ch maes gwaith eich hun, gan gynnwys gwybodaeth a phrofiad ymarferol o rwydweithio TCP / IP, LAN, WAN a thechnoleg diogelwch rhyngrwyd, a rhaid bod â gwybodaeth/profiad blaenorol mewn o leiaf dri o'r pynciau canlynol:

Electroneg.

Rhwydweithio IP

Teledu cylch cyfyng a thrawsyriad fideo.

Egwyddorion sain.

Egwyddorion amledd radio.

Meddalwedd a chaledwedd TG

Telathrebu

Rhaid bod â thrwydded yrru â gêr lawn (trwydded Categori B) a gallu teithio o fewn ardal yr heddlu yn ôl gofynion y rôl.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaethau cymorth technegol arloesol i amrywiaeth fawr o gwsmeriaid, gan gipio cudd-wybodaeth i ddatblygu ymchwiliad neu dystiolaeth i sicrhau euogfarn gan ddefnyddio ystod eang o asedau technegol. Bydd y rhain yn cynnwys delweddu, sain, dyfeisiau electronig amrywiol a rhwydweithiau IP i gefnogi ymdrechion plismona rhagweithiol o fewn Heddlu Dyfed-Powys.

Cwblhau arolygon safle, asesiadau o ddichonoldeb, gosod, cynnal a chadw a echdynnu offer technegol yn unol â gofynion y dasg a'r fframweithiau cyfreithiol.

Gwneud gwaith gosod, cynnal a chadw arferol, atgyweirio, cynhyrchu ac addasu offer gan gynnwys creu “mannau cuddio" i guddliwio a diogelu offer, gweithio dan bwysau mewn amgylcheddau digroeso, gan gynnwys gweithio ar uchder, mannau cyfyng, tywyllwch a thywydd garw.

Adfer fideo teledu cylch cyfyng digidol o systemau trydydd parti ledled ardal yr heddlu, yn unol â chodau ymarfer y Rheoleiddwyr Gwyddor Fforensig a Gweithdrefn Delweddu Digidol ac Amlgyfrwng Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Cynhelir cyfweliadau: rhwng 16 a 18 Medi 2026, a fydd hefyd yn cynnwys dau asesiad ymarferol a). Gwifro trydanol a b). Rhwydweithio IP.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Apply for this job

Related jobs

Cynorthwyydd Technegol Archwilio Troseddfannau (CSI)

£38,169 to £41,487 per year

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

HybridPermanentFull time

Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Gymraeg

£32,613 to £35,772 per year

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

HybridPermanentFull time

Gweinyddwr Cymorth yr Adran Cyfiawnder Troseddol Teulu (18.5 Oriau'r Wythnos)

£25,950 to £27,204 per year, pro rata

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

HybridPermanentPart time
Browse more jobs